Dewch â ffrind i'r Cae Ras
Wrecsam v Sheffield Wedneday
Mae Ymddiriedolaeh Cefnogwyr Wrecsam wedi galw ar bobl i fynd â ffrind â nhw i'r Cae Ras fory ar gyfer y gêm yn erbyn Sheffield Wednesday.
Bydd y bych (Ifan) a minnau'n gwneud y daith ar hyd yr A55 wrth i Ifan wneud ei bedwerydd ymddangosiad ar Y Cae Ras.
Mae'n siom cyn lleied yw niferoedd y dorf ar y Cae Ras eleni, yn enwedig o gofio ein bod yn chwarae pêl-droed da ac yn 8ed yn y gynghrair a chyda gêm wrth gefn fyddain ein gweld yn mynd i'r 3ydd safle petawn yn ei hennill.
Mae pob math o drafferthion oddi ar y maes (gweler yr archif) a byddai'n ofnadwy petai Wrecsam yn gorfod gadael y Cae Ras ar ddiwedd y tymor gyda miloedd ar filoedd yn troi allan i weld y gêm olaf heb fod wedi mynychu yr un gêm arall yn ystod y tymor.

« Dolen flaen | Nesaf »
am 2:06 PMFydda i ar y Kop ar gyfer fy gem cyntaf tymor hwn (cywilydd). Er y bydda i yno (a fy nghariad a'm ffrind sydd chwaith wedi bod tymor yma oherwydd ei fod yn gogydd ac yn gweithioar y penwsnos) dwi ddim yn gweld torf enfawr. Dwi eisiau trefnu cwis tafarn (o bosib a'r thema chwaraeon) yng Nghaerdydd yn y dyfiodol agos. Dwi wedi siarad digon, rhaid gwneud rhywbeth am unwaith. Fydde ti fel arbennigwr yn y maes yn gallu help gyda rhai cwestiynnau ac wyt ti'n nabod unrhyw selebs a fyddai'n fodlon cymeryd rhan?
am 3:23 PM
Byddwn i'n sicr yn fodlon 'sgwenu cwestiynau i ti - dwn i ddim am y selebs, ond mae 'na ddigon o gefnogwyr Wrecsam yn y de 'na!
» Post a Comment