Crap, crap, crap, crap, crap
Cymru 2-2 Gogledd Iwerddon
Wel os oedd nos Sadwrn yn siomedig, roedd neithiwr yn shambls llwyr.
Roeddwn i wedi glanio'n Manceinion am 17:30 nos Fawrth ac wedi gyrru'n syth i'r brifddinas er mod i'n dioddef yn uffernol o Baku Belly!
Wrth fwynhau peint bach distaw â rhai o'm ffrindiau nos Fawrth, roeddem wedi cysuro'n hunain na all y tîm berfformio mor sâl am yr eildro mewn wythnos - wel roedd hynny'n wir ... rowedd y tîm yn waeth byth!
Pob clod i gefnogwyr Gogledd Iwerddon, roeddent yn wych, gan ddangos i'r Cymry pathetig sut mae cefnogi tîm. Mae awyrgylch Stadiwm y Mileniwm yn haeddu nodyn ei hun gan ei fod fel llyfrgell am y rhan fwyaf o'r gêm, a tydi hyn ddim yn beth newydd.
Roedd yn amlwg i dîm Gogledd Iwerddon gael eu hysbrydoli gan y swn oedd yn dod gan eu 5,000 o gefnogwyr wrth iddynt lwyddo i chwarae'n well na Chymru a hynny efo 9 dyn i gymharu â 10 o Gymry.
Mae Mark Hughes yn dweud nad yw popeth ar ben, ond bydd angen lot fawr o lwc os ydym am gyrraedd yr Almaen a Chwpan y Byd 2006 bellach.
O leiaf cawn fwynhau'r tripiau heb orfod poeni am lwyddo!
Adroddiad BBC Cymru'r Byd

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment