Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Brian Clough yn marw

Mae un o gymeriadau mwyaf y gêm, Brian Clough, wedi marw yn 69-mlwydd-oed.

Stori BBC Cymru'r Byd

Mae Clough yn enwog am fod yn ecsentrig ond mae'n rhaid cofio iddo lwyddo i enill Cwpan Ewrop dwy flynedd yn olynol â thîm gymharol fechan fel Nottingham Forest.
Mae'r dyddiau o weld timau tebyg yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Ewrop wedi hen ddiflannu, ac mae hynny'n bechod mawr.

Ond bydd rhywun yn cofio Old Big 'Ed, fel y gelwir ei hyn wedi iddo gasglu'r OBE, am ei ffordd unigryw o reoli a delio â'r wasg.

Mae fy hoff ddyfyniad gan Clough yn dod wrth iddo wneud sylw yn ystod yr 80au hwyr, ar y tueddiad i dimau chwarae'r bêl hir:
"If God had wanted us to play football in the clouds, he'd have put grass up there."



Brian Clough
(1935-2004)
Heddwch ei Lwch.


| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment