Bog Off Alex Hamilton
Yda chi'n cofio darllen am ymgyrch Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i achub y Cae Ras?
Wel ar raglen Week In Week Out ar BBC Cymru neithiwr cafwyd cadarnhad o'r hyn fo'r ymddiriedolaeth a ffansîn y Dismal Jimmy wedi bod yn ddweud ers misoedd.
Mae Alex Hamilton y gwneud ei orau glas i geisio cau'r clwb er mwyn datblygu'r tir.
Mae o wedi hysbysu'r clwb eu bod yn gorfod gadael Y Cae Ras ar ddiwedd y tymor - fo sydd berchen y maes.
Mae angen rhoi stop ar hyn ac mae angen i holl bobl gogledd Cymru (a Chymru gyfan) i lobio eu haelodau seneddol ac aelodau cynulliad.
Dyma'r atebion rwyf wedi dderbyn hyd yma:
Rwyf hefyd wedi cael ebost o gefnogaeth gan AS Ynys Môn, Albert Owen, sydd wedi arwyddo cynnig cynnar yn y Ty Cyffredin yn cefnogi'r ymgyrch i gadw Wrecsam ar Y Cae Ras.
Beth allwch chi wneud?
1) Dewch i'r Cae Ras
2) Ymunwch â'r Ymddiriedolaeth
3) Ysgrifennwch at eich AS ac AC lleol
Peidiwch, da chi, ac eistedd ar eich tinau a gwneud dim tan ei fod yn rhy hwyr!

Annwyl Mr. Pritchard,
Diolch am eich neges.
Dwi'n gwbl gefnogol i'r ymgyrch i gadw tim peldroed Wrecsam
yn ei gartre presenol ar y Cae Ras, ac fe wnaf yr hyn a allaf
i'w gynorthwyo.
Yn gywir,
Ieuan Wyn Jones AC
Ynys Môn
Annwyl Gary Pritchard,
Diolch ichi am eich e-bost dyddiedig dydd Sul 11 Gorffennaf at y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh AC. Gofynnwyd i mi ei ateb.
Byddwch yn deall mai cwmnïau cyfyngedig yw clybiau pêl-droed (mae nifer fechan ohonynt yn gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus sy’n cael eu rheoleiddio mewn ffordd wahanol) a bod ganddynt yr un cyfrifoldebau ag unrhyw gwmnïau cyfyngedig a busnesau eraill o ran rheoli eu busnesau.
Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw bod llawer iawn o bobl yn dilyn clybiau pêl-droed a bod pobl yn y gymuned leol yn teimlo eu bod yn ‘berchen’ ar y clwb. Yn naturiol, felly, mae yna lawer iawn o ymwybyddiaeth a phryder cyhoeddus pan fo clwb pêl-droed mewn trafferthion ariannol.
Mae’r Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny, yn rhannu eich pryderon, ac yn deall pa mor bwysig yw clwb pêl-droed Wrecsam a’r Cae Ras i chwaraeon yng Nghymru yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae wedi gofyn i’r holl asiantaethau perthnasol gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, Cyngor Chwaraeon Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru ei hysbysu’n llawn am yr holl ddatblygiadau diweddaraf.
Diolch ichi unwaith eto am eich llythyr.
Yn gywir
Ross Matthews
Yr Uned Polisi Chwaraeon
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rwyf hefyd wedi cael ebost o gefnogaeth gan AS Ynys Môn, Albert Owen, sydd wedi arwyddo cynnig cynnar yn y Ty Cyffredin yn cefnogi'r ymgyrch i gadw Wrecsam ar Y Cae Ras.
Beth allwch chi wneud?
1) Dewch i'r Cae Ras
2) Ymunwch â'r Ymddiriedolaeth
3) Ysgrifennwch at eich AS ac AC lleol
Peidiwch, da chi, ac eistedd ar eich tinau a gwneud dim tan ei fod yn rhy hwyr!
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment