Baku'n yr USSR
Azerbaijan 1-1 Cymru
Mwy am y gêm yn y man, ond yn gyntaf, beth am Baku?
Roedd y ddinas ychydig yn wahanol i'r hyn welsom dwy flynedd yn ôl.
Ond wrth i ni wibio o'r maes awyr mewn Lada rhydlyd heb wregys diogelwch ar gyflymder o dros 80 m.y.a. gan osgoi tyllau anferthol yn y prif drafforth, roedd yn amlwg fod rhai pethau yn union yr un fath!
Mae Baku'n ddinas ddifyr dros ben gan ei fod yn gymysgedd o'r hen Undeb Sofietaidd a'r Dwyrain Canol. Azerbaijan yw'r unig wlad yn y byd heb law am Iran sydd ag Islamaeth Shi'ite fel eu crefydd swyddogol ond mae'r wlad yn dra wahanol i ffwndamentaliaeth Chwyldro Islamaidd Iran.
Ble arall yn y byd gallwch i fwynhau peint o gwrw mewn bar Gwyddelig cyn mynd am dro rownd y gornel ac ymweld â hen ddinas sy'n dyddio yn ôl i'r 7ed ganrif cyn Crist?
Ond, dwy flynedd yn ôl roedd twristiaid yn bethau od, a roedd pawb yn hynod falch ein bod wedi trafferthu ymweld â'u gwlad. Eleni roeddent ychydig fwy 'streetwise' gyda'r gyrrwyr tacsi yn codi llawer iawn mwy o ddoleri am pob taith a chyda pherchnogion y stondinau farchnad yn codi eu prisiau ar gyfer y dynion rhyfedd mewn trowsusau byr a choesau gwyn!
Lluniau'r daith
Grwp arall o bobol sydd llawer mwy 'streetwise' erbyn hyn yw tîm pêl-droed y wlad.
Tydw i ddim am fynd i ormod o fanylion am y gêm - roedd yn ddigon anodd ei wylio'r tro cyntaf - ond teg yw dweud bod y cefnogwyr i gyd wedi eu synnu i weld Gabbidon yn chwarae fel cefnwr chwith, yn enwedig ar ôl ei berfformiad siomedig yn eryn Hwngari yn y safle.
Roeddwn yn falch, yn y pen draw, o weld Cymru'n gorffen y gêm â phwynt, cystal oedd perfformiad y tîm cartref, ac er ei fod yn ganlyniad siomedig, rwy'n siwr na fydd Baku yn le hawdd i unrhyw un o'r timau eraill ymweld ag ef.
Adroddiad BBC Cymru'r Byd

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment