Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Aye Aye Roy Makaay

Woohooo!
Noson wych i mi â fy nhîm fantasy Champions League. Llwyddodd Eintracht Farmtrack i sgorio 46 pwynt nos Fawrth a hynny er gwaetha'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r tîm yn chwarae nos Fercher.
Mae'r diolch yn bennaf i Roy Makaay o glwb Bayern Munich lwyddodd i sgorio 17 pwynt trwy rwydo tair gôl a chreu'r pedwerydd wrth i'r Almaenwyr chwalu Ajax.
Ychwanegwyd mwy o bwyntiau gan Ruud van Nistelrooij am iddo sgorio gôl ac am greu gôl wrth i Man Utd chwalu Fenerbhace 6-2. Gan mai Ruud yw capten fy nhîm, mae'r 9 pwynt yn cael eu ddyblu i 18.
Reit ta, ymlaen at nos yfory a gobeithio na fydd Chelsea'n ildio gôl - Petr Cech sydd yn y gôl - a gobeithio am goliau gan Lampard, Vicente a Reyes.

Uefa Champions League Fantasy Football
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment