Uchafbwyntiau HTV
Welodd unrhyw un uchafbwyntiau Cwpan Carling ar HTV neithiwr? Roedd o'n raglen drychinebus o wael.
Wedi treulio hanner awr a mwy o'r rhaglen yn dangos gêm Caerdydd yn erbyn Kidderminster, cawsom y goliau o QPR v Abertawe - a rhain wedi eu golygu'n uffernol o sâl.
Yna cawsom uchafbwyntiau'r gêm rhwng Hull a Wrecsam - mam bach, dyma chi shambles.
Pedair gôl wedi eu torri'n gythreilig o herciog ac yna troi at y ciciau o'r smotyn.
Ar ôl gweld y ddau dîm yn methu un cic ac yn sgorio un cic, cawsom glip o Darren Ferguson yn sgorio i Wrecsam i roi'r Dreigiau 2-1 ar y blaen ... yna, yn sydyn, roedd y boi smarmy o'r stiwdio yn awgrymu ein bod yn "keep it right here" gan ein bod am ddod yn ôl wedi'r hysbysebion i weld "all the action from Rotherham" ....????
Wel be am adael i ni weld gweddill y ciciau o'r smotyn o Hull, neu hyd yn oed dweud beth oedd y blydi sgôr!!!
Shambls llwyr a gwarth o beth.

« Dolen flaen | Nesaf »
am 3:25 PMmwynhau'r blog - braf gweld blog arbenigol yn enwedig am bel-droed Cymreig. Joio darllen y darn am daith latfia. Ymlaen Aber!
Sion J
Aber
am 1:08 PM
Cafwyd uchafbwyntiau (sef y pedair(?) cic olaf) tafod-mewn-boch ar Wales Soccer Night neithiwr, cyn dangos uchafbwyntiau Caerdydd eto (gan gynnwys cyfleoedd) a'r goliau o gem Abertawe. Mae'n gwbl hurt gymaint mae'r cyfryngau'n mynd o blaid Caerdydd - mae'r sefyllfa'n difrifoli. Caerdydd = unig dim Cymru yw'r sefyllfa ddelfrydol iddyn nhw mae'n siwr. Maen nhw am ddilyn gweledigaeth Sam Hammam o Gaerdydd yn bod yn gyfwerth â'r tim cenedlaethol...
am 12:52 PM
'sa hyn byth yn digwydd ar y beeb ;-)
» Post a Comment