Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Oldham 2-3 Wrecsam

Methu mynd i Boundary Park heno 'ma, felly'n gorfod bodloni ar Radio Wales ... neu dyna oedd y cynllun.
Roedd Rado Wales yn cael "problemau technegol", felly Ceefax a nodyn bodyn (text message) gan y clwb oedd yn dwyn fy sylw!

Hat-trick i Hector Sam, ond gyda gêm oddi cartref yn Brentford ddydd Sadwrn, a finnau'n defnyddio'r Brownie Points i fynd i Latfia ddydd Llun, ymddengys fy mod am fethu'r dair gêm agoriadol o'r tymor.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 4:53 PM Blogger Nick ddywedodd ...

Ond o leia nad yw Wrecsam wedi colli pwynt eto. Felly dyw e ddim yn newyddion drwg i gyd.

Nid mod i'n gwybod dim am bêl-droed, a sa i wedi bod i'r Cae Ras ers canol y 80au (a hynny i weld Motörhead a Twisted Sister). Jyst neis i weld rhywun blogio am yr hen dîm.

(Nic Dafis yw hwn, gyda'r llaw. Nawr bod imposter o ddysgwr gyda'r un enw â fi ar y sîn, mae'r amser wedi dod i mi greu cyfrif Blogger newydd, falle.)    



am 4:55 PM Blogger Nic Dafis ddywedodd ...

Do'h. Mae cyfrif 'da fi yn barod.    



» Post a Comment