Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Meddwi'n racs yn Riga

Wel wir, lle mae dyn yn dechrau? Mae Riga yn ddinas hyfryd, yn ddinas brydferth ac mae'r merched sydd yn byw yno yn brydferthach byth!
Os yda chi'n cael cyfle i ymweld â'r ddinas, ewch rwan cyn i'r penwythnosau stag, sydd yn siwr o gyrraedd mewn un haid rwan bod Ryanair yn hedfan yno, sbwylio'r ddinas.
Mae Riga'n ddinas digon bychan fel eich bod yn gallu cerdded i unman, ond eto'n ddigon mawr i gynnig llu o fariau, clybiau nôs ac adloniant ... ahem ... amheus.
Roedd dros 450 o Gymry wedi teithio i Latfia - i ni'r anoraks roedd yn gyfle i rhoi tic yn erbyn gwlad arall - er mwyn gweld y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad, a roedd yr awyrgylch yn y ddinas wrth edrych ymlaen at y gêm yn wych.
Roedd rhywfaint o siom nos Lun wrth i bedwar boi ifanc o Latfia ddewis ymosod ar ein criw ni o hogia mewn bar ger y prif sgwâr. Er bod yr heddlu wedi eu galw i'r bar gan y perchennog, llwyddodd y bois o Latfia i roi slap i nifer o'r hogia. Yn wir, roedd un plismon yn dal Cymro tra roedd un o'r hogia lleol yn ei ddyrnu.
I dorri stori hir yn fyr, es ddywed y Sais, cafodd un Cymro ei gymryd i gefn fan heddlu ac, ymhen ychydig oriau, cafodd ei hebrwng i ATM cyfagos a'i orfodi i dynnu 300 lat (tua £300) allan o'r peiriant - "dirwy" medda nhw ... set-up llwyr a llwgrwobrwyo byddwn i yn ei alw.
Beth bynnag, cawsom uffar o amser da am weddill y daith, yn enwedig ar ddiwrnod y gêm wedi i ni dod o hyd i far bach ger y stadiwm oedd yn edrych fel parlwr ffrynt y ddynes tu ôl i'r bar!
Wedi gofyn am vodka a Sprite, cefais dri chwarter gwydr o vodka cyn iddi nôl y botel Sprite a sylwi ei fod yn wag - "No worry, I give more vodka to you ...", meddai! Does dim angen dweud nad ydw i'n cofio rhyw lawer o'r gêm!

Lluniau'r daith i Riga

Adroddiad BBC Cymru'r Byd
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment