Achub y Cae Ras
Mae yna argyfwng yng Nhglwb Pêl-droed Wrecsam oherwydd y perchennog, Alex Hamilton.
Datblygwr tir yw Mr Hamilton ac mae o, gan ddefnyddio ei wahanol gwmniau, wedi llwyddo i brynu, nid yn unig y clwb ond y maes hanesyddol ac, yn bwysicach fyth, y lês ar gyfer y maes.
Mae CPD Wrecsam bellach yn berchen i gwmni o'r enw Memorvale, sydd yn berchen i gwmni arall o'r enw Broadhill.
Mae'r unig cyfranddaliad yn Broadhill yn berchen i Mr Alex Hamilton.
Yda chi dal efo fi ...?
Rhyw bryd yn 2002, llwyddodd cwmni o'r enw Damens i brynu 'freehold' Y Cae Ras ac yna yn 2003, er mwyn "codi arian i dalu bil treth", gwerthodd CPD Wrecsam lês y cae i gwmni Damens am £300,000.
Allwch chi ddyfalu pwy sydd berchen Damens?
Ia ... cywir ... Mr Alex Hamilton.
Felly wrth honni ei fod yn ceisio achu y clwb trwy godi arian i dalu'r dyn treth, fe werthodd Mr Hamilton lês y clwb iddo ei hun am £300,000 - er fod y bil treth yn £525,000 - ac yn waeth na hynny, bellach mae'n rhaid i'r clwb dalu £30,000 y flwyddyn mewn rent i Damens.
Cyn gwerthu'r lês roedd y clwb yn talu £1 y flwyddyn ... ia £1!!
Mae Mr Hamilton yn honni mai symud o'r Cae Ras yw'r unig ffordd i glirio dyled y clwb a dechrau â llechen lân - yr hyn mae'n anghofio ddweud yw ei fod yn debygol o wneud elw o hyd at £78 miliwn os yw'n cael ei ffordd ei hun ac yn llwyddo i godi tai ar safle.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi datgelu cynlluniau fyddai'n gweld y clwb yn clirio'r ddyled o £2.6m gan ddatblygu'r tir tu ôl i'r Kop i adeiladu fflatiau.
Byddai'r cynllun yma yn gweld y ddyled yn diflannu a galluogi'r clwb i aros ar Y Cae Ras.
Felly beth yw'r broblem medde chi?
Mr Hamilton yw'r broblem a'r mater bach o'i £78 miliwn ... nid achub y clwb yw ei fwriad on gwneud elw anhygoel.
Y cefngwyr yn protestio yn erbyn cynlluniau Mr Hamilton cyn y gêm â Swindon

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment