Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Y 'Highland League'

Wedi treulio penwythnos yn yr ucheldiroedd o'r Alban - Inverness, Nairn a Forres i fod yn fanwl - mae gennyf awch i ddychwelyd yno er mwyn gwylio gemau pêl-droed a blasu mwy o'r Malt Whisky!

Cefais gyfle i weld meysydd pêl-droed Nairn County a Forres Mechanics, sydd yn chwarae yng Nghynghrair yr Ucheldir.
Dim am fy mod yn 'ground-spotter' ond gan fy mod yn aros mewn gwesty drws nesaf i faes Nairn County ac am fy mod wedi bod mewn priodas drws nesaf i faes Forres Mechanics!
 
Yn anffodus oherwydd y briodas nid oeddwn yn gallu mynd i wylio gêm, er fod QPR yn herio Inverness Caledonian Thistle a Nairn County yn ystod f'ymweliad.   
 
www.highlandfootballleague.com

| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment