Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Edrych ymlaen

Rwy'n edrych ymlaen yn arw at y tymor pêl-droed newydd - mae hi bron i bythefnos ers diwedd Ewro 2004 ... ew, mae'r haf yn hir!

Rwyf wedi bod yn llythyru fy AS ac AC heddiw oherwydd fy mhryderon am Y Cae Ras, cartref CPD Wrecsam.
Mae datblygwr tir o Fanceinion wedi cymryd drosodd fel cadeirydd y clwb ac mae'n gwneud ei orau glas i redeg y clwb i'r llawr er mwyn cael datblygu'r maes.
Mae o eisoes wedi gwthio dyled y clwb trwy'r to trwy gadw cyfrifon creadigol ac mae'n ceisio dwyn perswâd ar y cyngor i'w ganitau i ddatblygu'r tir o gwmpas y Cae Ras.

Mae hyn yn bryder mawr i mi fel cefnogwr Wrecsam, ond, petai Mr Hamilton yn llwyddo, mae'n golygu na fyddai stadiwm o safon yn y gogledd er mwyn cynnal gemau rhyngwladol.

Am fwy o fanylion cerwch i ymweld â
www.dismaljimmy.com

| Nesaf »

» Post a Comment